Deffro’r Ddraig

 Deffro’r Ddraig – Y Weledigaeth

 

Dros 1500 o flynyddoedd yn ôl, ychydig ar ôl i’r Rhufeiniaid adael Prydain, roedd Gwrtheyrn, y brenin Brythonaidd (Cymreig) cynhenid cyntaf, yn adeiladu’i gastell. Allai ei weithwyr ddim dod o hyd i ffordd o gadw’r castell rhag syrthio. Allen nhw ddim chwaith dod o hyd i unrhyw reswm pam roedd hyn yn digwydd dro ar ôl tro. Ymhen hir a hwyr dywedodd cynghorwyr agos y brenin fod y duwiau’n anhapus ac er mwyn cymodi â nhw, byddai’n rhaid iddo ddod o hyd i fachgen ifanc heb dad a’i aberthu, a gadael i’w waed lifo ar y tir lle’r oedd y castell i’w adeiladu.

Gwrandawodd Gwrtheyrn ar y cyngor yma, ac anfonodd finteioedd i ddod o hyd i fachgen o’r fath. O’r diwedd cafwyd hyd i fachgen yn Ne Cymru o’r enw Myrddin ap Emrys (a ddaethpwyd i’w adnabod wedyn fel Merlin). Daethpwyd â Myrddin yn ôl at y brenin ac fe gafwyd o’n fachgen unigryw hynod o gydwybodol a deallus. Ac yntau’n gwybod ei dynged, roedd y bachgen ifanc mor blaen ei dafod a chyfareddol fel llwyddodd i berswadio’r brenin i beidio â’i ladd drwy ddweud wrtho am weledigaeth a gafodd. Efo’r weledigaeth yma eglurodd Myrddin wrth y brenin pam fod sylfeini ei gastell mor ansad. O dan y sylfeini roedd llyn tanddaearol. Os cai’r llyn ei wagu, byddai’r castell yn sefyll yn gadarn.

Cafodd ei brenin ei argyhoeddi gan y bachgen ifanc a gorchmynnodd i’w weithwyr godi’r sylfaeni. Yn sicr ddigon,  fe ddaethon nhw o hyd i lyn tanddaearol. Cafodd hwn ei wagu a gosodwyd sylfaeni newydd. Fodd bynnag, ar ôl peth amser eto dadfeiliodd y castell.

Wrth gwrs, teimlai cynghorwyr y Brenin fod ganddyn nhw’r cyfle r?an i droi’r Brenin yn erbyn Myrddin. Gwaetha’r modd, wnaethon nhw ddim rhoi cyfri i bersonoliaeth rymus Myrddin na’i ddawn i berswadio. Dywedodd Myrddin wrth y brenin am weledigaeth arall a gafodd. Yn ei weledigaeth yma fe welodd ogof enfawr o dan y fan lle’r arferai’r llyn fod. Yn yr ogof yma roedd yna ddwy ddraig, a gafodd eu carcharu yno flynyddoedd ynghynt gan Ludd a Llefelys. Roedd y dreigiau hyn mewn brwydr, a’u hymladd oedd yn gyfrifol am ysgwyd y sylfeini mor ffyrnig nes bod y castell yn dadfeilio. Felly unwaith eto, gorchmynnodd y brenin i’w weithwyr godi’r sylfeini, ac fel roedd Myrddin wedi proffwydo, yna roedd dwy ddraig mewn brwydr ffyrnig.

Gwyliodd y Brenin, ei gynghorwyr, a’i holl ddynion y dreigiau’n ymladd. Roedd un yn wen a’r llall yn goch. Yn y frwydr a ddilynodd roedd y ddraig wen wedi cael y llaw uchaf ac ar yr un goch ac ar fin ei lladd.  Ond yna, gydag un pwl o ymdrech olaf fel petai, casglodd y ddraig goch ei holl nerth a llwyddodd i drechu’r ddraig wen a’i hel o’r deyrnas. Dychwelodd y ddraig goch i’r ogof wedyn a llithrodd i ryw fath o drwmgwsg.

 

Trodd y Brenin, ei gynghorwyr a phob un a oedd yn dyst i’r digwyddiad at Myrddin. Mynegodd yntau y bu’r digwyddiad tyngedfennol hwn yn ei weledigaeth. Roedd y ddraig goch yn ymgorfforiad o’r genedl Frythoneg (Cymreig) a’r ddraig wen yn ymgorfforiad o’r
goresgynwyr Sacsonaidd. Ymhellach, eglurodd mai trefn y digwyddiadau yn ystod cwrs y frwydr oedd tynged y genedl Gymreig. Eglurodd hefyd fod y ddraig nawr yn disgwyl am alwad ei phobl yn ystod eu hawr dywyllaf a’u hangen mwyaf. Bryd hynny mi ddeffrith unwaith eto a dod i achub y genedl Gymreig pan elwir arni.

Deallodd Myrddin hefyd nad oedd yr holl ddigwyddiadau yn adlewyrchiad o dynged Cymru yn unig, ond o’r byd i gyd. Felly mae’r ddraig goch yn cynrychioli’r grymoedd da sy yn y byd ac ym mhobl y byd, tra bod y ddraig wen yn cynrychioli’r grymoedd tywyll sydd ar waith yn y byd a’i phobl.

Eryri oedd lleoliad y digwyddiadau hyn, ar fynydd sy’n cael ei galw’n Ddinas Emrys o’r herwydd, heb fod nepell o Feddgelert.

Ers yr amseroedd cynnar yma, mae’r ddraig goch wedi bod yn ymgorfforiad o’r genedl Gymreig a’i phenderfyniad i oroesi.

Sawl blwyddyn wedyn ar ôl stori Gwrtheyrn a Myrddin, cafodd y ddraig goch ei mabwysiadu fel baner y Cymry. Ar ein baner bresennol mae’r ddraig goch yn cynrychioli’r Cymry. Y lliw tanllyd yn symbol o ysbryd penderfynol ein cenedl, ein hanes, ein diwylliant a’n
Cymreictod.

Mae traed y ddraig yn sefyll yn gadarn ar dir gwyrdd. Cymru, ein gwlad, a gwlad ein tadau, o le mae’r enw Cymry’n d?ad – cydwladwyr. Yr un tir a roddodd noddfa inni, yr un tir a fyddai’n tynged ni fel pobl ynghlwm wrtho hyd tragwyddoldeb. Mae’n cynrychioli’r agosatrwydd sydd rhyngddon ni a thir ein gwlad.

Mae hanner uchaf y faner yn wen, sy’n cynrychioli’r nefoedd, yr aer glan, pur, ac hefyd brwydrau dwyfol y genedl Gymreig, ei huchelgais a’i hymdrechion ysbrydol.

Dyma’n safbwynt diwylliannol, ein chwedloniaeth, ein treftadaeth a’n hanes. Y ddraig ynghwsg, yn disgwyl i’r genedl Gymreig alw arni. Ni ydy’r ddraig, fel cenedl ac fel unigolion. Hi yw pob dyn, dynes a phlentyn, y bonedd a’r werin, y mawr a’r man.

Ni sydd angen deffro. Ni a ni yn unig fedr rhyddhau Cymru. Yn wir, mae’r ddraig yn deffro, ac wedi bod yn deffro’n araf ers canrifoedd, drwy sawl cenhedlaeth a thrwy weithredodd llawer o bobl dros y cenedlaethau hynny.

Fodd bynnag, tan r?an, er gwaetha’r canrifoedd o orthrwm a fu ar Gymru, ar ein hunaniaeth, ein hiaith a’n diwylliant dydy’r ddraig heb fod yn barod i ddeffro. Mae hyn oherwydd drwy gydol ein hanes, mae’n hunaniaeth, ein hiaith a’n diwylliant wedi sefyll yn gadarn, o ganlyniad i benderfyniad y genedl, ac oherwydd ymdrechion llu o Gymry drwy’r oesoedd. Yn ein cyfnod ni, heddiw, mae’n hiaith, ein diwylliant a hyd yn oed ein tir yn sefyll ar ochr y bedd. Felly yn ein hamser ni mae’r ddraig yn barod i gael ei deffro.

Deffro’r Ddraig – Yr Ymgyrch

Mae ffawd, drwy ymdrechion y rheini sy wedi deffro dros y canrifoedd, wedi rhoi amgylchiadau ffafriol inni, cyfle i ddeffro’r ddraig yn llwyr, cyfle iddi godi yn ei holl ogoniant. Mae’n ymgorffori’n holl hanes, ein holl ddoethineb, ein cymeriad a’n penderfyniad i oroesi.

Rhan fawr o’r cyfle hwnnw, yn wleidyddol a diwylliannol, ydy’n Cynulliad ni. Mae potensial y sefydliad hwn yn syfrdanol. Er nad ydy o ond yn ei blentyndod, mae’r Cynulliad wedi rhoi inni ei brif gyfraniad gyntaf ar gyfer y genedl Gymreig. Gweledigaeth Gymreig ar gyfer Cymru yw honno. Mae’n rhaid gwerthfawrogi hyd yn oed y syniad o hyn yn ei gyd-destun hanesyddol. Ers diflaniad Owain Glynd?r o Bowys Fadog dyw’n cenedl erioed wedi cael ei chydnabod, gan yr un ffurf o lywodraeth.

Y weledigaeth yma ar gyfer Cymru yw Cytundeb Cymru’n Un. Er ei fod mewn rhai ffyrdd yn ddiymhongar, ac yn ymddangos weithiau fel pe cawsai ei anghofio mewn rhyw archifdy tywyll, mae’n rhywbeth y gall pobl Cymru a’r rheini sy’n gweithio efo’r Cynulliad ymgyrraedd
ato. Rhaid inni ganmol y rheini sy wedi dod â’r Cytundeb i olau dydd. Ynddo mae yna syniadau sy wir yn adlewyrchu’n cymeriad a’n huchelgais fel cenedl. Ynddo hefyd mae’r bwriad i adeiladu ar ein hanes a’n profiadau mewn modd cadarnhaol. Mae’n sôn am gydraddoldeb gwirioneddol, cynaladwyedd, diogelu’n cymunedau, ein hiaith a’n treftadaeth.

Felly, mae arnon ni y genedl Gymreig eisio cofleidio Cytundeb Cymru’n Un. Mae arnon ni eisio cofleidio’n Cynulliad Cenedlaethol, ein llywodraeth, a’i gynorthwyo i gyrraedd ei botensial, a ninnau ein potensial ninnau. Er mwyn gwneud hynny ac i’r Cynulliad droi geiriau Cymru’n Un yn bethau ymarferol, geiriau fel cynaladwyedd ac yn y blaen, mae’n rhaid i’r Cynulliad sylweddoli y gall hyn ond digwydd pan fod yna lawer mwy o wrando ar farn bobl gyffredin. Rhaid i bobl gyffredin gael y cyfle i wneud sylwadau ar gynlluniau, strategaethau a bwriadau’r Cynulliad. Ddylen ni ddim gorfod brwydro i wneud sylwadau ar y cynllun gorffenedig. Mae Strategaeth Is Rhanbarthol Gorllewin Sir Gaer / Gogledd Ddwyrain Cymru (ynghyd â’r strategaethau traws ffiniol eraill hynny yng Nghanolbarth a De Cymru sy’n cael eu pasio’n ddistaw bach) yn dangos yn eglur y gwendidau sy’n bodoli ar hyn y bryd. Ymhellach, mae’n dangos y ffordd y caiff pobl Cymru eu gwahardd, ie, eu gwahardd rhag cyfrannu ac hyd yn oed eu difrïo gan rai adrannau o’r Sefydliad am geisio gwneud hynny. Mae’n eitha tebyg i’r ffordd mae’r genedl Gymreig yn hanesyddol wedi cael ei gweld a’i thrin gan lywodraeth Lloegr.

Felly, er bod ganddon ni’r potensial i weld llywodraeth anrhydeddus yn datblygu o’n cynulliad ifanc gyda’i arwyddion cadarnhaol, dydy’r ddraig heb ddeffro’n iawn eto. Mae’r ffyrdd i ddeffro’r ddraig ac i wneud i’n llywodraeth a’n cenedl gyrraedd eu potensial yma i ni eu defnyddio, os dewisiwn i fanteisio arnynt. Mae yna nifer o syniadau, cysyniadau a strategaethau ar gael inni, ac o’u cyfuno gyda’r hyn
rydan ni wedi cyflawni eisoes gallent gael effaith bellgyrhaeddol ar ansawdd ein llywodraeth a bywyd Cymru. Ar y cyfan, mae’r rhain yn syml, yn hawdd i’w rhoi ar waith a dydyn nhw ddim yn costio miliynau o bunnoedd!

Byddai trafodaeth bellach o’r meysydd allweddol yma yn ein barn ni yn annoeth. Y rheswm pam ydy fod o’n profiad ni mae tueddiadau presennol y llywodraeth o feddwl (fel y meddylfryd sydd y tu ôl i strategaeth isranbarthol Gorllewin Gaer / Gogledd Ddwyrain Cymru), wedi gwneud i bobl amau’r drefn wleidyddol yn ddirfawr. Mae yna ofn y byddai’r adrannau hynny o’r llywodraeth yn gwneud dim ond gwenieithu am y pynciau dan sylw, gan beri iddynt golli’u grym, a thrwy hynny eu gwneud yn amhosib i’w gweithredu.

Mae Cyngor Pobl Gogledd Cymru’n teimlo mai diben ymgyrch Deffro’r Ddraig ydy diwygio’r ffordd mae’r Cynulliad a llywodraeth leol yn gweithio, gan sicrhau fod y naill a’r llall yn gwbl agored wrth fynd o gwmpas eu pethau. Hynny yw, y caiff popeth ei wneud wneud yng ng?ydd Cymru gyfan.

Digon yw dweud fod yna gyfle anferthol i Gymru symud ymlaen a rhoi syniadau tebyg i’r rhai sydd yng Nghytundeb Cymru’n Un ar waith drwy fynd i’r afael â materion hanfodol sy’n rhwystro’r cytundeb rhag cael ei draed dano go iawn. Yn gyffredinol ac yn sylfaenol mae strategaeth is-ranbarthol Gorllewin Gaer / Gogledd Ddwyrain Cymru yn dangos yn eglur y ffyrdd o weithio ac o feddwl sy’n ein rhwystro ni rhag cyrraedd ein potensial a’r ddraig rhag deffro.

Ein gobaith mawr ydy gweld y Cynulliad yn cynrychioli, yn arwain ac yn cefnogi Cymru’n fwy effeithiol, ac hefyd i weld Cymru’n cefnogi, yn cyfarwyddo ac yn dangos balchder yn ei Chynulliad. Mae’r ddraig yn deffro, yn galluogi pob Cymro a Chymraes i gymryd cyfrifoldeb droson ni’n hunain, dros ein gweithredoedd a thros ein gwlad.

Deffro’r Ddraig !